Report Date

19/06/2024

Case Against

Welsh Government

Subject

Other

Case Reference Number

202401700

Outcome

Early resolution

Cwynodd Mrs X fod Llywodraeth Cymru wedi methu ag ymateb i’w chwyn ynghylch cais ei mab am Arbenigwr Addysg Bellach, a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2023.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cofnodi cwyn Mrs X ac ymateb iddi yn unol â’i phroses gwyno. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anhwylustod i Mrs X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb Llywodraeth Cymru i ymddiheuro am yr oedi a’r anghyfleustra a achoswyd ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.