Report Date

04/11/2025

Case Against

A GP Practice in the area of Swansea Bay University Health Board

Subject

Clinical treatment outside hospital; GP

Case Reference Number

202407727

Outcome

Not Upheld

Cwynodd Mrs A am y gofal a ddarparwyd gan y Feddygfa i’w phartner diweddar, Mr B, y diwrnod cyn iddo farw. Fe wnaethon ni ymchwilio i weld a oedd y Feddygfa wedi methu ag asesu a rheoli poen yn y frest Mr B yn briodol ar 27 Chwefror 2024.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a ddarparwyd i Mr B gan y Feddygfa ar 27 Chwefror o fewn yr ystod o ofal clinigol priodol. Ni ellid yn rhesymol ddisgwyl i’r meddyg teulu a welodd Mr B ragweld y byddai Mr B yn debygol o farw o ganlyniad i achos cardiaidd o fewn 24 awr, yn seiliedig ar ei symptomau ar adeg yr ymgynghoriad. Yn unol â hynny, ni chadarnhawyd y gŵyn.